
Y cyhoeddwyr sy’n penderfynu a oes angen darllenwyr sensitifrwydd ac mae’r Cyngor Llyfrau wedi trefnu hyfforddiant i weisg.
Ond yn ôl Gareth Evans Jones efallai y dylai’r cyngor hefyd dalu i ddatblygu cnwd o ddarllenwyr addas.
“Efallai fedrith y Cyngor Llyfrau fuddsoddi mewn datblygu unigolion sydd ag awydd dilyn cyrsiau hyfforddiant i ddod yn ddarllenwyr sensitifrwydd,” meddai.
“Efallai nad oes yna lawer ar gael ar hyn o bryd yn y Gymraeg ond o fuddsoddi – a buddsoddi’n ofalus ac yn strategol gywir mi fuasai modd datblygu cnwd go dda o ddarllenwyr sensitifrwydd,” meddai.
Yr hyn sy’n bwysig, medd Arwel Jones, o’r Cyngor Llyfrau yw cofio nad oes neb yn tramgwyddo’n fwriadol.
“Mae gynnon ni bob ffydd nad oes dim un o gyhoeddwyr Cymru yn mynd i gyhoeddi unrhyw beth sy’n anghyfreithlon neu’n ysgubol o ragfarnllyd.
“Mae’n faes efo llawer iawn o gysgodion a lliwiau yn perthyn iddo ac mae darllenwyr sensitifrwydd yn un o’r arfau yna ond pe buasech yn gofyn i 10 o bobl o’r un cefndir am eu profiad nhw o fywyd byddech chi’n cael deg barn wahanol.
“Mae camgymeriadau yn mynd i ddigwydd ac mae’n rhaid i ni hefyd fod yn raslon gan feddwl fod pawb yn symud i’r cyfeiriad cywir i gynyddu’r gynrychiolaeth sydd yna yn ein llenyddiaeth ni gan gadw’r nod yna bob amser bod y cynnwys yn mynd i fod yn wahanol gydag amrywiaeth awduron.”