
Wrth i dîm rygbi dan-20 Cymru ddechrau eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Sadwrn, mae dau frawd balch o Lanilltud Faerdre yn y garfan.
Bydd y ddau yn dechrau’r gêm yn nhre Vannes yng ngogledd orllewin Ffrainc – Steffan Emanuel, y brawd ieuengaf yn chwarae’n safle’r canolwr, a’i frawd hŷn Ioan yn chwarae fel prop.
Yn ôl Steffan, mae yna falchder o gael cyd-chwarae gyda’i frawd yn ei ymgyrch gyntaf yn y Chwe Gwlad.
“Mae e’n neis [cael brawd yn y garfan], yn enwedig pan chi eisiau rhywbeth, fel cyngor, ac arbed petrol drwy rannu liffts! So mae hwnna’n neis hefyd!” meddai.
“Ro’n ni’n gystadleuol iawn pan roedden ni’n tyfu lan, yn yr ardd, yn paffio!”
Ychwanegodd eu bod nhw’n “dal i fod” yn gystadleuol ac “yn trio gwthio’n gilydd gymaint â phosib, ond mae e’n gystadleuaeth iachus”.