
Fel rhan o’r ymgyrch, fe wnaeth Sian Richards gyflwyno cais i ddynodi’r cae yn faes pentref.
Pe bai’r cais hwnnw wedi llwyddo fyddai ddim modd adeiladu unrhywbeth ar y safle.
Ond ym mis Medi y llynedd, fe wnaeth cynghorwyr Ceredigion wrthod y cais.
Yn ôl Cyngor Ceredigion, doedd dim modd ei ddynodi fel maes pentref gan fod y cae wedi cael ei brynu i’w ddatblygu – roedd wedi cael ei glustnodi yn y 1960au fel safle posib ar gyfer Ysgol Ramadeg Ardwyn.
Ym mis Rhagfyr, fe anfonodd bargyfreithiwr ar ran yr ymgyrchwyr lythyr at Gyngor Ceredigion yn amlinellu pwyntiau lle gallai penderfyniad y cyngor i wrthod y cais gael ei herio’n gyfreithiol.
Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae’r llythyr yn cefnogi barn y gymuned leol bod y broses arweiniodd at y penderfyniad yn wallus.
Maen nhw’n honni bod cynghorwyr wedi cael eu camarwain ac yn ychwanegu nad oedd modd i’r cyngor fod yn ddiduedd wrth wneud y penderfyniad gan ei fod hefyd yn rhan o’r cais i adeiladu ar y safle.