1. Anasayfa
  2. GENEL HABER

Dau swyddog wedi eu hanafu tu allan i orsaf heddlu

Dau swyddog wedi eu hanafu tu allan i orsaf heddlu
0

Dywedodd aelod o staff o’r bwyty La Luna, a ofynnodd i fod yn ddienw, fod yr ardal wedi’i thapio i ffwrdd a bod tua 20 o geir heddlu y tu allan.

“Rydyn ni i gyd yn iawn ond ni’n poeni bod rhywbeth difrifol wedi digwydd,” meddai.

Dywedodd yr AS lleol Alex Davies-Jones, sy’n weinidog yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ei bod yn meddwl am y swyddogion a anafwyd a’u teuluoedd.

“Rwy’n dawel fy meddwl bod yr heddlu’n gwneud popeth o fewn eu gallu ac yn parhau i weithio’n ddiflino bob dydd i gadw ein cymunedau’n ddiogel,” ychwanegodd, gan annog pobl i osgoi’r ardal.

Dywedodd y cynghorydd lleol Sarah Jane Davies ei bod yn deall bod y sefyllfa yn “achosi pryder” ymhlith y gymuned leol, a’i bod yn ceisio cael diweddariadau.

Anogodd bobl i osgoi’r ardal ac i “i beidio cynhyrfu ac i fod yn wyliadwrus”.

Mae gorsaf yr heddlu yn agos i ganol Tonysguboriau, ac yn agos i barc siopa Tonysguboriau.

Roedd y ffordd ger yr orsaf ar gau i’r ddau gyfeiriad nos Wener.

Bu Yazıya Tepkiniz Ne Oldu?
  • 0
    be_endim
    Beğendim
  • 0
    alk_l_yorum
    Alkışlıyorum
  • 0
    e_lendim
    Eğlendim
  • 0
    d_nceliyim
    Düşünceliyim
  • 0
    _rendim
    İğrendim
  • 0
    _z_ld_m
    Üzüldüm
  • 0
    _ok_k_zd_m
    Çok Kızdım

Bültenimize Katılın

Hemen ücretsiz üye olun ve yeni güncellemelerden haberdar olan ilk kişi olun.

Bir Cevap Yazın