
Yn ôl Vikki Howells, mae Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Wendy Larner, yn gobeithio bydd y ffigwr yn “sylweddol is ‘na hynny”.
“Mae hi wir yn gobeithio osgoi diswyddo gorfodol ond byddwn yn annog yr holl staff i weithio gyda’u hundebau”, meddai.
Fe gafodd y staff y Brifysgol wybod am y newidiadau arfaethedig ddydd Mawrth, ac mae’r brifysgol wedi lansio ymgynghoriad fydd yn para 90 diwrnod.
Er hyn, fe wnaeth hefyd gydnabod ei bod yn edrych ar ddiwygio cyllid addysg uwch ac edrych ar faterion fel mudo, myfyrwyr rhyngwladol, a hefyd rheolau Trysorlys EM sy’n gyfrifol am drefniadau cyllid myfyrwyr.
Dywedodd ei bod wedi bod yn siarad â llywodraeth y DU am hynny ac wedi cael sgwrs “gadarnhaol iawn”.
“Rwyf wedi cael sgwrs gadarnhaol iawn gyda fy nghymar yn y DU, y Farwnes Jacqui Smith, ac mae cyfarfod arall wedi’i drefnu gennyf yr wythnos nesaf.
“Felly mae hwn, i mi, yn gwbl allweddol i greu atebion cynaliadwy hirdymor ac rwy’n benderfynol o roi’r anghenion Cymru ar frig y’ngwaith.”