
Ychwanegodd fod “nifer” o droeon trwstan yn aros yn y cof.
“Fel bob dim, gwnewch chi’ch gwaith yn iawn, does ‘na neb yn sylwi arnoch chi.
“Ond gwnewch chi un camgymeriad ac mae ‘na 80,000 yn clywed chi!”
Dywedodd mai “o’r troeon trwstan mwya’ embarassing i fi” oedd gwneud cyhoeddiad anghywir ar gyfer sgoriwr y cais cyntaf yn Stadiwm y Mileniwm, “ond mae ‘na reswm da iawn dros hynny”.
Mark Taylor ac Alan Bateman oedd yn chwarae fel canolwyr ar y diwrnod hwnnw yn 1999, pan lwyddodd Cymru i drechu De Affrica o 29-19.
Ond roedd y ddau wedi cyfnewid crysau yn y twnnel, heb i Iestyn Garlick wybod.
Taylor sgoriodd y cais cyntaf yn y stadiwm newydd, ond oherwydd eu bod wedi cyfnewid crysau, fe wnaeth Iestyn gyhoeddi mai Bateman oedd wedi gwneud hynny!