
“Mae nifer o hanesion diddorol yn perthyn i’r Clio, y bywyd anodd – a’r trychinebau. Bu farw James Hemmett, 11 oed, ar ôl syrthio i’r dŵr yn Awst 1878, a syrthiodd John Herely hefyd o’r rigin ym Mehefin 1880, a marw.
“Achosodd afiechyd hefyd llawer o farwolaethau – fawr syndod, wrth ystyried yr amodau ar y llong : niwmonia, teiffoid, colera.
“Ond mae hefyd hanes fwy sinistr, marwolaeth William Crook yn 1905, ar ôl iddo gael ei fwlio a’i guro gan fechgyn eraill. Dangosodd yr ymchwiliad i’w farwolaeth ddiffyg gofal ar y llong,” meddai Manon.
Mae William Crook wedi ei gladdu ym mynwent Llandegfan, mewn bedd gydag unarddeg o fechgyn eraill o’r Clio – i gyd rhwng 12 ac 13 oed.
Mae beddau’r plant dal i’w gweld yn y fynwent hyd heddiw, ac yn atgof o’r caledi ar fwrdd y llong.