
Mae mis Ionawr yn fis cenedlaethol planhigion tŷ. Oes gyda chi lond tŷ o blanhigion adref, neu falle eich bod chi eisiau dysgu sut i ofalu am blanhigion?
Mae’r arbenigwr Rhona Duncan, sy’n berchen siop planhigion yn Nhreganna, Caerdydd, yma i helpu.
Bu Rhona yn siarad gyda Heledd Cynwal ar Bore Cothi ar Radio Cymru.
Mae un peth i gofio gyda planhigion, yn ôl Rhona: “Mae wastad yn brysur gyda planhigion – maen nhw wastad angen rhywbeth.”
Felly beth yw cyngor Rhona i unrhyw un sy’ eisiau cyflwyno mwy o wyrddni i’r cartref?
Meddai: “Mae planhigion yn dod â bywyd i’r tŷ ac yn newid sut ti’n teimlo yn y stafelloedd hefyd.”
Felly sut mae dechrau, yn enwedig ym mis Ionawr?
Yn ôl Rhona: “Y peth gyda Ionawr yw mae’n mynd yn dywyll yn glou ac os oes gyda chi lot o blanhigion yn y tŷ, os oes gyda chi spider plant neu rhywbeth mewn cornel tywyll, hwn yw’r amser i gael e mas o’r gornel a rhoi e’n agos i’r ffenest. Hwn yw’r amser maen nhw angen y golau.